Dydd Llun 4pm – 5pm
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, CH7 1YA
(oedran a argymhellir: 7 -13)
Os ydych wastad wedi bod eisio chwarae offeryn chwyth neu prês ….. dyma eich cyfle! Efallai eich bod wedi cael eich ysbrydoli drwy ein rhaglen Profiadau Cyntaf ym mlwyddyn 3, neu efallai rydych wedi gweld band gwych ac isio rhoi cynnig arni. Mae’r sesiwn yma wedi’w chynllunio i roi cyfle i ddechreuwyr ddysgu chwarae offerynnau efo’u gilydd fel ensemble o dan arweiniad ein tiwtoriaid arbenigol. Does dim rhaid bod a phrofiad blaenorol ac fe allwn ddarparu’r offeryn. Does ddim rhaid i chi fod yn cael gwersi, gan fod y band wedi’w chynllunio i chi gychwyn.
‘R ydym yn croesawu cerddorion ifanc sydd yn derbyn gwersi chwyth neu pres yn barod – fydd y darnau fyddem yn chwarae efo rhannau yn addas ar gyfer bob oedran a lefelau profiad.
Mae croeso i aelodau newydd ddod i roi cynnig arni gynta’ cyn ymaelodi. Os hoffech mwy o wybodaeth, e-bostiwch helen.yates@theatrclwyd.com
Mae’r aelodaeth yn £25 bob hanner tymor (tua £4.40 y sesiwn) ac yn daladwy yn fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Mae aelodaeth yn cwmpasu ein holl grwpiau sydd yn golygu na fydd cost ychwanegol i ymuno efo mwy nag un.
Mae gwybodaeth am gymorth tuag at gost gwesi ac aelodaeth ensemble ar gael yma.
