Dydd Mawrth 4yh – 5yh
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, CH7 1YA
(ystod oedran a argymhellir 7-10)
Ydych chi’n caru canu? Hoffech chi gyfarfod cantorion ifanc eraill yn yr ardal leol? Dewch i ymuno efo’n Côr Iau.
Rydym yn chwarae gemau canu ac yn dysgu llawer o wahanol arddulliau o ganeuon i fagu sgiliau cerddorol, hyder a mynegiant llawen. Byddwch yn gweithio efo’n tiwtoriaid arbenigol i ddysgu caneuon wrth y glust a hefyd byddwch yn dechrau darllen nodiant syml, gan baratoi ein cantorion ifanc i symud i fyny i’r Côr Ieuenctid. Bydd cyfleoedd hefyd i berfformio yn Theatr Clwyd ac yn ein cymuned leol. Mae croeso i aelodau newydd ymweld ag ymarfer i gael gwybod mwy a thoi cynnig arni. Os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost at rebeca.kirkby@theatrclwyd.com
Mae’r aelodaeth yn £25 bob hanner tymor (tua £4.40 y sesiwn) ac yn daladwy yn fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Mae aelodaeth yn cwmpasu ein holl grwpiau sydd yn golygu na fydd cost ychwanegol i ymuno efo mwy nag un.
Mae gwybodaeth am gymorth tuag at gost gwesi ac aelodaeth ensemble ar gael yma.
