Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz RHAD AC AM DDIM ledled Cymru ym mis Mawrth, gan gynnig y cyfle i gerddorion ifanc 14–22 mlwydd oed
ddod o hyd i'w sain!
Wedi'i gynllunio ar gyfer cerddorion o Gradd 4 ac uwch, mae'r gweithdai undydd hyn yn darparu amgylchedd hwyliog, cynhwysol a chefnogol i brofi cerddoriaeth werin a jazz gyda cherddorion eraill.
Dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, bydd y Diwrnodau Darganfod yn cyflwyno'r cyfranogwyr i sylfeini gwerin a jazz trwy weithdai ymarferol, chwarae grŵp ac archwilio creadigol, gan orffen y diwrnod gyda sesiwn rhannu anffurfiol i rieni a gofalwyr.