News Story
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cwrs Côr y Pedair Sir 2026 ar gyfer cantorion ifanc o flwyddyn ysgol 6 i flwyddyn 13 (10 – 18 oed). Cynigir y cwrs hwn yn rhad ac am ddim fel partneriaeth rhwng Cerddoriaeth Theatr Clwyd a Chwmni Cydweithredol Cerddoriaeth Gogledd Cymru.
Nid oes angen clyweliad ar ei gyfer ac mae o wedi'i anelu at bobl ifanc a hoffai ddatblygu eu sgiliau corawl wrth weithio gyda'n hathrawon lleisiol talentog o bob cwr o’r pedair sir. Mae'n gyfle gwych i gwrdd â chantorion eraill o'r un anian o bob cwr o Ogledd Cymru, canu mewn rhannau gyda chôr mawr, a bydd yna hefyd weithgareddau cymdeithasol ochr yn ochr â'r ymarferion.
Mae'r cwrs yn digwydd yn ystod wythnos gyntaf gwyliau'r Pasg o 10am – 4pm dydd Llun 30 Mawrth, dydd Mawrth 31 Mawrth a dydd Mercher 1 Ebrill yn Ysgol Bryn Alyn, Wrecsam LL11 4HD. Bydd angen i bobl ifanc fynychu'r tri diwrnod a byddwn yn cynnal cyngerdd anffurfiol i rieni a gofalwyr ar ddiwedd y cwrs.
Gallwch archebu eich lle am ddim yma, neu anfonwch e-bost at cath.sewell@theatrclwyd.com os oes gennych unrhyw ymholiadau.