Profiadau Cyntaf

Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Gwersi | Tanysgrifiadau | Cwestiynnau Cyffredin | Adnoddau
Mae ein rhaglen wych ni o addysgu offerynnol i ddosbarth cyfan, sy’n cael ei chynnig am ddim i holl fyfyrwyr blwyddyn 3 Sir y Fflint, yn cyrraedd tua 1600 o blant bob blwyddyn.
Ein nod ni yw rhoi cyfle i blant ddysgu offeryn mewn awyrgylch hwyliog a hamddenol, a hefyd meithrin sgiliau a hyder drwy ganu, gemau cerddorol a pherfformiadau.
Mae’r rhaglen yn cefnogi cyflwyno’r cwricwlwm, gan ddarparu man cychwyn ysbrydoledig ar gyfer siwrneiau cerddorol disgyblion. Mae’r sesiynau’n cael eu cyflwyno ar y cyd gyda Chyswllt Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn gweithio ochr yn ochr â staff yr ysgol, gan roi cyfle gwerthfawr i ymarferyddion dosbarth ddatblygu eu hyder eu hunain wrth gyflwyno gweithgareddau cerddoriaeth yn y cwricwlwm ehangach.
Mae llawer o'n hathrawon Profiadau Cyntaf yn defnyddio adnoddau ar-lein Charanga. Mae Charanga ar gael am ddim hefyd drwy Wasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru i bob ysgol.
Profiadau Cyntaf 2025-2026
Bydd pob ysgol gynradd ac ysgol arbennig yn cael 10 sesiwn wythnosol dros gyfnod o hyd at awr. Bydd hyn yn cynnwys sesiwn gyflwyno ar ddechrau’r prosiect. Yn ogystal â’r 10 sesiwn, gwahoddir pob ysgol i berfformiad terfynol naill ai yn Neuadd William Aston neu Theatr Clwyd. Bydd ysgolion yn cael eu hysbysu ym mha dymor y byddant yn gwneud Profiadau Cyntaf a pha offerynnau a ddyrennir. Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol i drefnu’r sesiynau.
Yr hyn rydym yn gofyn amdano gan ysgolion sy’n cynnal sesiynau Profiadau Cyntaf:
• Athro dosbarth neu Gynorthwy-ydd Addysgu priodol i gydgyflwyno sesiynau ochr yn ochr â'n Cyswllt Cerddoriaeth
• Person cyswllt ar gyfer ein tîm gweinyddol
• Manylion perthnasol am unrhyw ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a chefnogaeth briodol i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i'r sesiynau
• Gofod addas ar gyfer cynnal y sesiwn
• Mynediad i daflunydd / sgrin a system sain
• Mynediad rhyngrwyd i'n hathro
• Storfa ar gyfer yr offerynnau
• Manylion am unrhyw ddyddiadau pan fydd yr ysgol ar gau neu pan na fydd y disgyblion ar gael cyn belled ymlaen llaw â phosib
• Cefnogaeth gyda pharhad a chyfeirio at gyfleoedd cerddorol pellach
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am Brofiadau Cyntaf, cysylltwch â’n Rheolwr Ysgolion, Susie Jones. susie.jones@theatrclwyd.com
Mae Profiadau Cyntaf yn cael eu cyllido gan Wasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru