Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Mewngofnodi | Cofrestru


Rydym yn falch i fod yn cyflwyno cerddoriaeth ym mhob ysgol yn Sir y Fflint, ac hoffwn yn gyntaf ddiolch i chi am eich cefnogaeth. Yn yr ysgolion mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol a chelfyddydau mynegiannol, fel rhan o’r cwricwlwm a thrwy weithgareddau ar ôl ysgol, clybiau amser cinio, corau a bandiau ysgol, cystadlaethau’r Eisteddfod a gwersi canu ac offerynnol.
Mae gan gerddoriaeth a’r celfyddydau mynegiannol rôl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi cyflawniad academaidd, iechyd a lles, ac adeiladu amgylchedd dysgu cadarnhaol a meithringar.

Rydym wedi parhau i ddatblygu ein gwasanaethau i ysgolion eleni drwy ymateb i’ch adborth. Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi:
• Dileu’r cyfraniad disgybl ar gyfer gwersi canu ac offerynnol
• Treialu Tanysgrifiad newydd i ysgolion, gan gynnig gweithdai, cymorth cwricwlwm a phrosiectau a
pherfformiadau byw
• Datblygu mwy o gyfleoedd hyfforddi a chymorth i athrawon

Rydym hefyd yn parhau i gynnig un o’r rhaglenni Profiad Cyntaf mwyaf helaeth yng Nghymru, gyda 10 wythnos o hyfforddiant arbenigol a chyngerdd ysbrydoledig yn un o’n lleoliadau.


Tanysgrifiad Ysgol


Eleni mae gennym ni danysgrifiadau gwahanol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.
Mae’r tanysgrifiad wedi’i gynllunio i gefnogi disgyblion a’ch staff. Mae’n cefnogi cwricwlwm y celfyddydau mynegiannol, iechyd a lles, gyrfaoedd â’r byd gwaith,
ac yn cynnig rhai cyfleoedd allgyrsiol unigryw. Nid yw’r tanysgrifiadau cynradd ac uwchradd yn cynnwys sesiynau wythnosol rheolaidd – gellir archebu’r rhain ar wahân.

Tanysgrifiad Ysgol Gynradd - £500
• Cymryd rhan yn nigwyddiad Big Sing
• Perfformiad cerddoriaeth fyw yn yr ysgol
• Hyfforddiant athrawon cyfnos ar-lein bob mis
• Benthyg offerynnau dosbarth
• Mynediad i’r banc adnoddau
• Cynigion tocynnau ar gyfer sioeau

Tanysgrifiad Ysgol Gynradd Plws - £1500
Pob un o’r uchod ynghyd â...
• Cefnogaeth i ddatblygu eich cwricwlwm, trwy ymgynghoriaeth a datblygu prosiectau
• 2 weithdy creadigol, aml-gelfyddyd
• Hyfforddiant athrawon pwrpasol yn yr ysgol
• Cefnogaeth gyda chynyrchiadau ysgol a chyngherddau
• Defnydd posib o lleoedd yn Theatr Clwyd

Gall hyd at 3 ysgol fach neu ffederal, rannu un Tanysgrifiad Cynradd Plws

Tanysgrifiad Ysgol Uwchradd - £1500
• 1 perfformiad o gerddoriaeth fyw yn yr ysgol
• Digwyddiad Taith Gyrfaoedd Creadigol Blwyddyn 9 yn yr ysgol
• Cefnogaeth ar gyfer Maes Astudio a pherfformiadau TGAU/Safon Uwch
• 1 gweithdy creadigol yn yr ysgol
• Cymryd rhan mewn Nosweithiau Gig Ysgolion
• Benthyg offerynnau/technoleg
• Cefnogaeth gyda thechnoleg cerddoriaeth
• Cefnogaeth gyda chynyrchiadau ysgol a chyngherddau
• Defnydd posibl o lleoedd yn Theatr Clwyd, ac ymweliadau i’r Theatr ar gyfer grwpiau bach o ddisgyblion
• Cynigion tocynnau ar gyfer sioeau i grwpiau ysgol a staff

Tanysgrifiad Ysgol Arbennig - £1500
• Cefnogaeth i ddatblygu eich cwricwlwm trwy ymgynghoriaeth a datblygu prosiectau
• 2 weithdy creadigol, aml-gelfyddydol yn yr ysgol neu brosiect 6 wythnos
• 1 perfformiad o gerddoriaeth fyw yn yr ysgol
• Hyfforddiant athrawon cyfnos ar-lein bob mis
• Benthyg offerynnau/technoleg
• Cefnogaeth gyda chynyrchiadau ysgol a chyngherddau
• Cymryd rhan yn nigwyddiad Big Sing neu Nosweithiau Gig Ysgolion
• Defnydd posibl o lleoedd yn Theatr Clwyd ac ymweliadau i’r Theatr ar gyfer grwpiau bach o ddisgyblion
• Cynigion tocynnau ar gyfer sioeau i grwpiau ysgol a staff

Ffurflen Archeb i Ysgolion